The alarm

Nadolig llawen

The alarm
Wel dyma'r Nadolig
Ni wyddom be' ddaw
Un flwyddyn yn darfod
Un newydd sydd wrth law
Ie dyma'r Nadolig
Llawn cysur a gwên
I'r rhai agos ac annwyl,
I'r ifanc a'r hen
Wel dyma'r Nadolig
I'r gwan ac i'r cry',
I'r cefnog a'r tlodion
Mae'r noson mor ddu,
I chi 'Dolig Llawen
A thrwy'r holl flwyddyn gron
Hapusrwydd a heddwch
Heb ryfel ac ofn.

Dim ond mynnu a chawn heddwch
Dim mwy o ryfel nawr!

Wel dyma'r Nadolig
I'r du ac i'r gwyn,
I'r coch a'r rhai melwyn,
Rhaid sefyll fel un
Ie dyma'r Nadolig,
Ni wyddom be' ddaw
Un flwyddyn aeth heibio,
Un newydd sydd wrth law
Dymunaf 'Dolig Llawen,
A llond blwyddyn o hoen,
Un hapus a thawel
Heb ofnau a phoen.

Dim ond mynnu a chawn heddwch
Dim mwy o ryfel nawr! .....

Encontrou algum erro na letra? Por favor envie uma correção clicando aqui!